Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 15 Mawrth 2018

Amser: 09.31 - 12.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4620


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Simon Thomas AC (Cadeirydd)

Neil Hamilton AC

Jane Hutt AC

Nick Ramsay AC

David Rees AC

Tystion:

Alison Gerrard, Swyddfa Archwilio Cymru

Anthony Barrett, Swyddfa Archwilio Cymru

Nicola Evans, Swyddfa Archwilio Cymru

Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru

Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru

Suzy Davies AC, Comisiynydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Georgina Owen (Dirprwy Glerc)

Joanne McCarthy (Ymchwilydd)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Mike Hedges AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   PTN1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at y Cadeirydd - Horizon 2020 Adroddiad Blynyddol 2017 - 7 Mawrth 2018

</AI3>

<AI4>

2.2   PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at y Cadeirydd - Bondiau Buddsoddi Cyfalaf - 8 Mawrth 2018

</AI4>

<AI5>

2.3   PTN3 - Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad at y Cadeirydd - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19 - 9 Mawrth 2018

</AI5>

<AI6>

3       Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Sesiwn dystiolaeth (Swyddfa Archwilio Cymru)

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar drefn ffioedd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gan Alison Gerrard, Aelod o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru; Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru; a Nicola Evans, Pennaeth Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru.

</AI6>

<AI7>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac eitemau 8-11

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

5       Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI8>

<AI9>

6       Ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau: Sesiwn dystiolaeth 1 (Swyddfa Archwilio Cymru)

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â'i ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau gan Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; ac Ann-Marie Harkin, Arweinydd Archwilio Ariannol ar gyfer archwilio cyfrifon Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru.

</AI9>

<AI10>

7       Ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau: Sesiwn dystiolaeth 2 (Comisiwn y Cynulliad)

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â'i ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Comisiwn y Cynulliad.

</AI10>

<AI11>

8       Ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau: trafod y dystiolaeth

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI11>

<AI12>

9       Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): trafod Adroddiadau Pwyllgor Cyfnod 1

9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiadau Cyfnod 1 ar Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

</AI12>

<AI13>

10   Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion Adran 116C yn y Cyngor

10.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion Adran 116C yn y Cyngor a chytunodd i ymateb.

</AI13>

<AI14>

11   Datganoli pwerau cyllidol i Gymru: Trafod yr adroddiad drafft

11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>